
RHODRI TREFOR?
Actor Cymraeg dwyieithog yn wreiddiol o Ogledd Cymru yw Rhodri. Ei rôl ddiweddaraf yw chwarae un o brif gymeriadau’r gyfres gomedi clasurol gwlt RYBISH (Cwmni Da) sydd ar fin mynd i mewn i’r drydedd gyfres. Mae ei ymddangosiadau teledu yn cynnwys THE INDIAN DOCTOR, POBL Y CWM, ROWND a ROWND, TALCEN CALED, GWLAD YR ASTRA GWYN a TIPYN o STAD. Mae wedi serennu mewn sawl ffilm nodwedd (BBC) ac mae’n actor tros lais profiadol iawn wedi chwarae amrywiaeth o rolau ar BBC Radio 4, Radio Wales, Radio Cymru, a gwaith cartŵn (S4C).
Mae’n actor theatr fedrus, wedi chwarae rhannau blaenllaw gyda rhai o gwmnïau theatr fwyaf adnabyddus Cymru, gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Bara Caws, Fran Wen, ac Arad Goch. Chwaraeodd ddwy o brif rannau'r cynhyrchiad o Chwalfa gyda'r Theatr Genedlaethol a enillodd Wobr Theatr Cymru am y Cynhyrchiad Cymraeg Gorau.
Sefydlu Cwmni? Pam? Yn ogystal â bod yn actor sefydledig mae hefyd yn athro Drama brofiadol a thiwtor Cymraeg. Mae wedi gweithio fel athro Drama yn ysgol Gartholwg Pontypridd ac fel athro llanw mewn sawl ysgol yng Ngogledd Cymru. Pan symudwyd yn ôl i Ogledd Cymru roedd eisiau rhoi profiadau perfformio i'w ddwy ferch gan sefydlu Cwmni Theatr a Fo Ben Bid Bontnewydd ym Montnewydd. Clwb drama nid er elw, a oedd yn rhoi'r cyfle i blant berfformio mewn digwyddiadau lleol a'r Eisteddfod. Ar ôl ymateb athrawon a rheini daeth yn amlwg bod galw am y math yma o beth ac ysgolion yn ysu am gefnogaeth ac arweiniad creadigol. Dyna felly oedd yr ysgogiad a genedigaeth y Cwmni sef Theatr A Fo Ben Bid Bontnewydd. Daw'r enw a'r slogan o chwedl Branwen, gyda Bendigeidfran yn bod yn font ac yn gefn i bawb. Dyma ein bwriad ni fel cwmni i fod yn font, yn llais, yn ffrind ac yn gefn i'n gilydd a phawb. "YN GEFN I'N GILYDD"
RHODRI TREFOR?
Rhodri is a bilingual Welsh actor originally from North Wales. His most recent role is playing one of the main characters in the cult classic comedy series RYBISH (Cwmni Da) that’s about to go into the third series. His TV appearances include THE INDIAN DOCTOR, POBL Y CWM, ROWND a ROWND, TALCEN CALED, GWLAD YR ASTRA GWYN and TIPYN o STAD. He has starred in several feature shorts (BBC) and is a very experienced voice over actor having played a variety of roles on BBC Radio 4, Radio Wales, Radio Cymru, and cartoon work (S4C).
He is an accomplished theatre actor, having played leading roles with some of Wales’ most well-known theatre companies, including Theatr Genedlaethol Cymru (the Welsh-language national theatre of Wales), Bara Caws, Fran Wen, and Arad Goch. He played two of the leading roles in the production of Chwalfa with Theatr Genedlaethol which won the Wales Theatre Award for Best Welsh-language production.
Setting up the Company? Why? As well as being an established actor he is also an experienced Drama teacher and Welsh tutor. He has worked as a Drama teacher at Gartholwg Pontypridd school and as a supply teacher in several schools in North Wales. When we moved back to North Wales he wanted to give his two daughters the opportunity to perform by establishing Cwmni Theatr a Fo Ben Bid Bontnewydd in Bontnewydd. It was a not-for-profit drama club, which gave children the opportunity to perform in local events and the Eisteddfod. After the response from teachers and parents it became clear that there is a demand for this kind of thing and schools are desperate for support and creative guidance. That was the impetus and the birth of the Company which is Theatr A Fo Ben Bid Bontnewydd. The name and slogan come from the legend of Branwen, with Bendigeidfran being a Bridge and support for everyone. This is our intention as a company to be a Bridge, a voice, a friend and the support for each other and everyone. "YN GEFN I'N GILYDD"
Create Your Own Website With Webador