Prosiectau ar hyn o bryd / Current projects

Ers sefydlu ym Mis Medi 2023 mae'r cwmni wedi mynd o nerth i nerth. Dw i wedi gweithio gyda phum dalgylch gwahanol ym Motwnnog, Harlech, Bala , Dolgellau a Thywyn gan weithio mewn sawl ysgol Uwchradd a Chynradd. Roedd y gwaith yma'n rhan o grant i ddatblygu'r Gymraeg. Dw i wedi mwynhau'r profiad yn arw ac yn cael fy ngwadd yn ôl i sawl ysgol. Dw i wedi bod yn cynnal dau ddiwrnod o weithdy ym mhob ysgol gyda pherfformiad ar y diwedd. Rwyf hefyd wedi bod yn ffilmio'r broses ac yna'n golygu fideo i'r ysgol gael fel cofnod.

Cysylltwch os ydych am weld enghreifftiau o'r gwaith neu i drafod eich anghenion chi! Cliciwch 'gwasanaeth' uchod i weld be allaf gynnig.

 

Since its launch in September 2023, the company has  grown from strength to strength. I have collaborated with five different catchment areas in Botwnnog, Harlech, Bala, Dolgellau, and Towyn, working in numerous Secondary and Primary schools. This initiative was part of a grant aimed at improving the Welsh language. The experience has been immensely rewarding, and I've had the pleasure of being invited back to several schools. I have ran a   two-day workshop in each school with a performance at the end. Additionally, I have documented the process by filming and editing a video for each school to keep as a record.

Please reach out if you're interested in viewing examples of the work or to discuss your specific requirements! Click 'service' above to see what I can offer. 

 

 

Rwyf ar hyn o bryd yn gweithio gyda sawl ysgol yn Nhywyn.  Rwy'n hynod o gyffrous ynglŷn â'r prosiect! Bydd pob ysgol yn derbyn dau ddiwrnod o weithdai wedi teilwra ar gyfer thema o'u dewis nhw.

Ar ôl y cyfnod yma byddaf yn mynd i ardal Dinbych i gynnal gweithdai cyn dychwelyd yn ôl i Benllŷn. Mae'r dyddiadur yn prysur lenwi felly cysylltwch.

 

I am currently working with several schools in Towyn.  I'm really excited about the project! Each school will receive two days of workshops tailored to a theme of their choice.

After this time I will be heading to the Denbigh area to run workshops before returning back to Penllŷn. The diary is rapidly filling up so get in touch.